Cyngor i Rieni
Bydd sesiynnau hyfforddi / ymarfer yn cael eu cynnal ar fore dydd Sul yn wythnosol. Mae’r tymor yn rhedeg o Fedi i Fai. Bydd sesiynnau hyfforddi hefyd yn cychwyn pob nos Fercher ar gaeau Clwb Rygbi Llangefni cyn bo hir. Pan fydd y tywydd yn troi yn anffafriol ac yn achosi i ni fethu defnyddio caeau’r Clwb (fel arfer dros fisoedd y Gaeaf), bydd y sesiynnau hyfforddi nos Wener yn cyfarfod ar gae aml-dywydd Plas Arthur.
PYMPIAU ASTHMA
Talu SUBS Wythnosol
Mae disgwyl i bob chwaraewr yr ADRAN IAU dalu £1 am fynychu sesiynnau ymarfer / hyfforddi pob bore Sul. Y Rheolwyr Timau fydd yn casglu'r sub yn wythnosol.
Yr Adran Iau
Mae llawer wedi’i wneud i ail drefnu strwythur, proffil ac apêl yr Adran Iau a gobeithiwn yn arw bydd y drefn newydd yn hwylus ac yn denu llawer mwy i ymuno â ni ac hefyd yn sail i greu perthynas glos rhwng teuluoedd a’r Clwb. Rydym am wneud yr Adran Iau yn adran bywiog, hwyliog, croesawgar a llwyddiannus – un sydd yn ffynnu ar yr ymdeimlad teuluol.
Mae gan bob tîm ei hyfforddwyr a rhieni rheolwyr penodol. Dewch i adnabod yr hyfforddwyr a’r rheolwyr. Os oes gennych gwestiwn am unrhyw beth, dewch i ofyn.
Ar gyfer 2009/2010 bydd gennym sesiynnau hyfforddi pob bore Sul , byddem yn chwarae gemau yn erbyn timau eraill ac yn cymryd rhan mewn Gwyliau Rygbi. Byddem yn trefnu gemau yn erbyn Timau Gwahoddiad a bydd trefniadau i gynnal Gwyl Rygbi i Ysgolion Ynys Mon.
Ar gyfer dydd Sul, mae hyfforddi yn dechrau am 10.30am ac yn gorffen am 12pm (hanner dydd).
Bydd y sesiynnau ganol wythnos yn amrywio o dim i dim yn ol gallu yr hyfforddwyr ac yn cael eu cynnal unai ar Nos Fawrth, Nos Fercher neu Nos Iau. Bydd hyfforddwyr pob tim yn gyfrifol am drefnu hyn gyda'u tim. Amser hyfforddi ganol wythnos rhan amlaf yw 6-7pm.
Ar gyfer gemau gartref hoffem i bawb gasglu yn y clwb erbyn 10.15am on bai bod trefniadau yn wahanol.
Ar gyfer gemau i ffwrdd, hoffem i bawb gyfarfod yn y clwb erbyn 10am (neu ynghynt – yn ôl pellter y gem oddi gartref ac yn ôl cyngor neu arweiniad yr hyfforddwyr).
Sut ga i wybod ss yw fy mhlentyn yn chwarae?
Yn achos pob tim a pob chwraewr, bydd yr hyfforddwyr yn ceisio sicrhau gem neu rhan o gem i bawb. Yn achos rhai timau hyn mae nifer y sgwadiau yn fawr. Bydd hyfforddwyr y timau hynny yn ymdrechu i fod mor deg a phosib yn eu ffordd o drin y chwaraewyr a'u cyfnodau chawarae ar y cae. Yn anochel bydd rhai chwaraewyr yn eilyddion ar gyfer rhai gemau. Gofynnwn yn garedig i chi fel rhieni a'r chwaraewyr fod yn synhwyrol i'r sefyllfa, yn amyneddgar a pharchu penderfyniadau yr hyfforddwyr.
Bydd hyfforddwyr y timau neu Rheolwyr Timau yn gyfrifol am gysylltu gyda chi i adael i chi wybod am drefniadau gemau adref ac i ffwrdd eich plentyn.
Bydd hyn yn digwydd drwy system 'TEAMER', drwy neges testun (SMS), drwy alwad ffon neu drwy e-bost. Ffordd arall yw ymweld a safle rhyngrwyd y Clwb a chlicio ar yr Adran Iau a darllen y golofn 'GWYBODAETH'. Bydd Rhys yn ymdrechu i ddiweddaru hwn pob wythnos gyda manylion gemau sydd ymlaen neu i ffwrdd, trefniadau teithio, trefniadau hyfforddi neu newidiadau funud olaf. O bryd i'w gilydd bydd yna newidiadau funud olaf. Rydym yn ceisio cael gwybodaeth allan i rieni a chwaraewyr mor fuan a chywir a phosib. Weithiau, bydd timau eraill yn gohurio gemau. Eto, gofynnwn yn garedig i chi beidio a siomi a bod yn amyneddgar os coda sefyllfa o'r fath.






I'w Cyhoeddi

