
I'w Cyhoeddi
Helpu Allan

"Beth allai wneud i helpu?"
Hoffem groesawu pob math o help:
-
Beth am gefnogi yn y gegin?
-
Beth am gynnig eich hun i fod yn Riant Reolwr?
-
Beth am roi cynnig ar hyfforddi?
-
Beth am ddyfarnu?
-
Beth am godi arian i'r Adran Iau?
-
Beth am gynnig lifft i gemau i ffwrdd?
Mae Adran Iau Clwb Rygbi Llangefni yn awyddus i hybu cefnogaeth llawer iawn mwy o rieni a theuluoedd. Weithiau ni all yr Hyfforddwyr fod ar gael i roi sylw a gofal unigol pan gyfyd achos o anaf neu siom wrth chwarae. Mae'n amhosib bod mewn dau le yr un pryd.
Fe hoffem weld rhieni sy'n gallu ac yn barod i fewntro gamu i mewn i gefnogi eu plant bryd hynny. Dymunwn i rieni aros i gefnogi sesiynnau hyfforddi a gemau adref ac oddi gartref.
Bydd bore dydd Sul yn rhoi cyfle i rieni / cefnogwyr fwynhau myg o de neu goffi yn y Clwb.
Pe byddech yn fodlon helpu, mae digon angen ei wneud o osod fflagiau a conau i ymuno yng nghyfarfodydd Pwyllgor yr Adran Iau. Mae chwaraewyr yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ar y llinnell gwsg - dewch i gefnogi pan y gallwch.
Paratoi Bwyd
Ceisiwn ddarparu pryd bwyd ar gyfer pob chwaraewr sydd yn chwarae gartref a phob chwaraewr o'r timau ymweld hefyd. Weithiau, golyga hyn fwydo tua 200 o bobl. Os gallwch roi rhywfaint o'ch amser i fod o gymorth yn y gegin, byddai hynny'n wych. Ni fyddwch ar ben eich hunan - fel arfer mae tim o rieni yno yn helpu - gallai fod yn llawer o hwyl. Beth am ddod i adnabod rhieni eraill a gwneud ffrindiau newydd?
Os oes gennych syniadau sut i wella pethau neu gynnig cymorth dewch i gael sgwrs neu anfon neges If you are able to provide help or a suggestion please either turn up at the club where there will be someone to discuss the matter with you or e-bost i ni.