Côd Ymddygiad
Adran Iau Clwb Rygbi Llangefni
Tymor 2011/2012

I’w barchu a’i gadw drwy gydol y tymor – heb eithriad.
Y CÔD YMDDYGIAD
(Cyflwynir i bob chwaraewr a Rhiant wrth gofrestru). Mae’r Côd i’w arwyddo gan y Chwaraewr a’r Rhiant.
Rho Undeb Rygbi Cymru (URC) bwyslais ar ddyletswydd pob chwaraewr a pob Clwb o’r Undeb i sicrhau fod y gêm yn cael ei hyrwyddo a’i chwarae ar bob lefel gyda’r pwyslais ar ddisgyblaeth a chwarae teg.
Mae’r Clwb yn dilyn camau disgyblu drwy Banel Disgyblu Mewnol a fydd yn cyfarfod pe byddai angen neu yn dilyn achos o gamymddwyn drwg.
Disgwylir i chwaraewyr…..:
-
Wisgo yn bwrpasol ar gyfer chwarae ac ymarfer.
-
Ddysgu rheolau’r gem a chadw atynt.
-
Ymroi yn bersonol i gadw eu hunain yn heini.
-
Beidio ag anghytuno na dadlau gyda’r dyfarnwr yn dilyn penderfyniad ganddo/ganddi.
-
Reoli eu tymer ar y cae chwarae, peidio a gor-ymateb, peidio manteisio ar anhegwch cymryd mantais o unrhyw chwaraewr yn ystod gemau nac mewn ymarferion.
-
Weithio’n galed i’w hunan ac i’r tîm.
-
Anwybyddu geiriau cellweirus a heriol gan gefnogwyr a chanolbwyntio ar eu perfformiad personol a pherfformiad y tîm.
-
Cydweithio gyda aelodau’r tim, yr hyffoddwyr a’r dyfarnwyr - hebddynt fyddai dim gêm.
-
Derbyn y drefn ddisgyblu heb gwestiynu yn ystod gêm neu ymarferion.
-
Beidio a defnyddio iaith anweddus a bygythiol.
-
Barchu sesiynnau ymafer – cyrraedd mewn da bryd, gwrando, dysgu a dilyn cyfarwyddyd y tîm hyfforddi bob amser.
-
Osgoi ymddygiad annerbyniol – cosbir ymddygiad o’r fath.
-
Ymdrechu i wella eu perfformiad personol drwy ymarfer rhwng sesiynnau ymarfer.
-
Helpu gyda chlirio’r ardal chwarae / ymarfer a chadw offer a ddefnyddir gan y tim yn ôl cyfarwyddyd hyfforddwyr.
Pwrpas ymarferion yw cynnig amgylchedd hwyliog i ddysgu sgiliau a rheolau’r gêm, dim i wastraffu eich amser chi’ch hunain nac amser pobl eraill sydd eisiau dysgu, nac amser yr hyfforddwyr sydd yn rhoi o’u hamser rhydd yn wirfoddol.
Bydd yr hyfforddwyr yn gweithredu trefn ‘tri streic ac allan’ o ddisgyblu os yw ymddygiad yn torri’r Cod Ymddygiad. Bydd hyn yn cynnwys dau rybydd ar goedd ac ar y trydydd rhybudd, caiff y chwaraewr / chwaraewyr gais i eistedd allan o’r weithgaredd / ymarfer. Fe allai’r chwaraewr golli cyfle i chwarae yn y gêm nesaf Bydd y penderfyniad yn nwylo’r tim hyfforddi neu Banel Disgyblu’r Adran Iau.
Bydd camymddygiad neu weithredoedd sydd yn dwyn gwarth ar enw da Clwb Rygbi Llangefni ddim yn cael ei dderbyn ac yn denu sancsiynnau.
Disgwylir i Rieni:
-
Hybu eu plentyn i chwarae yn ôl y rheolau.
-
Ddysgu eu plentyn o bwysigrwydd gwaith tîm a chydweithio.
-
Fod yn gymorth i’w plentyn wella ei sgiliau a bod yn gadarnhaol wrth wneud hynny.
-
Osod esiampl da.
-
Gymeradwyo chwarae da gan eu tîm hwy a’r gwrthwynebwyr.
-
Bod yn gyfeillgar ac yn groesawgar i rieni y gwrthwynebwyr.
-
Peidio a chwestiynnu gweithredoedd na phenderfyniadau’r dyfarnwr.
-
Cefnogi pob ymdrech i atal ymddygiad bygythiol a ‘physical abuse’
-
Cydnabod a pharchu pwysigrwydd yr hyfforddwyr a’r dyfarnwyr sydd yn rhoi o’u hamser personol yn ddi-dal ac yn wirfoddol.
-
Byth a defnyddio iaith bygythiol ac anweddus.
-
Beidio ac ymddwyn mewn ffordd sydd yn denu cwynion neu sydd yn dwyn gwarth ar enw da Clwb Rygbi Llangefni. Byddai ymddygiad o’r fath yn anebyniol ac yn denu sancsiynnau.






I'w Cyhoeddi

