Prif Noddwyr:
Slaters Chevrolet Llangefni Joseph Keegan B2
Gemau Cartref Nesaf: I'w Cyhoeddi
Cartref

AMDDIFFYN PLANT – TYNNU LLUNIAU a CHYMRYD FIDIO

 

Mae Adran Iau Clwb Rygbi Llangefni RFC yn adnabod yr angen i sicrhau lles a diogelwch plant a pobl ifanc mewn chwaraeon.

 

Yn unol â’n polisi amddiffyn plant ni fyddem yn caniatau tynnu lluniau, cymryd fidio o blant a bobl ifanc heb dderbyn caniatad o flaen llaw y rhieni neu gwarcheidwaid.

 

Bydd Adran Iau Clwb Rygbi Llangefni yn cymryd camau angenrheidiol a rhesymol i sicrhau bod lluniau a dynnir yn cael eu defnyddio i bwrpas ‘rygbi’, hyrwyddo’r Clwb ac i bwrpas newyddion. Ni ganiateir tynnu lluniau neu gymryd fidio heb ganiatad a chytundeb o flaen llaw gan rieni neu unigolion eraill. Bydd gosod lluniau heb ganiatad neu osod clipiau fidio ar safleoedd cymdeithasol fel You Tube a safleoedd cyffelyb yn arwain i gamau disgyblu gan yr Adran Iau / Prif Bwyllgor.

 

Gall gosod lluniau / clipiau fidio ar safweoedd, hyd yn oed gyda chaniatad, sydd yn ddifriol neu sydd yn dwyn gwarth ar Glwb Rygbi Llangefni arwain at gamau disgyblu, posibilrwydd o ddiarddel o chwarae neu atal aelodaeth.

 

GOFYNNWN I RHIENI LENWI 'FFURLFEN GANIATAD DEFNYDDIO LLUNIAU NEU FIDIO' - i'w lenwi wrth gofrestru eich plentyn gyda'r Adran Iau.

Tanysgrifwch