I Bob Chwraewr
Chwraewch er hwyl ac i wella eich sgiliau a’ch gȇm personol.
Cadwch at y rheolau.
Gwrandewch ar eich Hyfforddwyr a’r Rheolwyr Timau – parchwch nhw.
Peidiwch a chegau – derbyniwch benderfyniad y dyfarwr a’ch hyfforddwr pob tro – wnaiff o/hi ddim newid eu meddwl a bydd unrhyw gegau yn arwain i gosb i’r tîm.
Rheolwch eich tymer a’ch geiriau - rhowch eich egni i mewn i'r chwarae.
Daliwch ati i chwarae – peidiwch byth a rhoi y ffidil yn y tô.
Dylech gymeradwyo rygbi da – hyd yn oed os mai’r tim sydd yn eich erbyn chi sydd yn chwarae’n dda.
Byddwch yn deg bob amser – CHWARAE TEG.
Ymarfer – cofiwch eich bod yn rhan o dîm – dewch i bob ymarfer a drefnir, ewch ati i ymarfer i wella’ch sgiliau a gwrandwch ar yr hyfforddwyr. Cofiwch bydd presenoldeb cyson mewn ymarferion yn sicr o hawlio cyfle i chwarae’n aml. Bydd pob sesiwn ymarfer yn adeiladu ar y diwethaf.
Derbyniwch beirniadaeth adeiladol – peidiwch a phwdu. Os nad ydych yn hoffi beth sydd yn cael ei ddweud - 'tyff' deliwch gyda'r peth.
Peidiwch a bod yn hunanol – cofiwch eich bod yn rhan o dîm. Caiff gemau eu hennill gan unigolion sydd yn chwarae o few tîm – dm gan unigolion sydd yn chwarae iddyn nhw’u hunain.
Canolbwyntiwch yn ystod y cyfnodau ymarfer a thrwy pob gȇm.
Peidiwch a dangos ei hunain – hyd yn oed ar ôl sgorio.
Rydych yn rhan o dîm clos, rhan o deulu agos – ar ddiwedd pob cyfnod ymarfer arhoswch i glywed unrhyw negeseuon gan yr hyfforddwyr neu’r rheolwyr timau. Peidiwch a diflannu rhag ofn i chi fethu allan.
Parchwch eich cyd-chwaraewyr, timau eraill a’u cefnogwyr.
Parchwch eiddo ac adnoddau CLWB RYGBI LLANGEFNI yn arbennig yr ystafelloedd newid. Mae’r un peth yn wir pan byddem yn ymweld â chlybiau eraill.
Byddwch yn falch o’ch tîm ac o ADRAN IAU CLWB RYGBI LLANGEFNI.