Tymor 2009 / 2010
Croeso i bawb. Dewch i fod yn rhan o Glwb Rygbi bywiog a phrysur - clwb teuluol ac Adran Iau gweithgar a llwyddiannus. Ar gyfer 2009/2010 mae gan yr Adran Iau gadeirydd newydd sef Sharon Jones. Darllenwch Gylchlythyr Sharon ar y dudalen Newyddion a Digwyddiadau.
Mae Clwb rygbi Llangefni yn rhedeg sawl tim Adran Iau - Dan 8 i Dan 16. Mae croeso i blant o Flwtyddyn 1 i Flwyddyn 11 ymuno. Bu'r tymor diwethaf yn un llwyddiannus dan arweinyddiaeth Arwyn Phillips a Rhys Roberts. Da ni'n awyddus iawn i barhau i brofi llwyddiant. Y tymor hwn hoffem weld y nifer chwaraewyr yn y timau Dan 8 a Dan 9 yn cynyddu. Rydym yn gwahodd plant sydd ym Mlynyddoedd 1, 2 a 3 yr ysgol gynradd i ymuno - bydden nhw'n chwarae fersiwn TAG o rygbi (dim taclo) hyd iddyn nhw gyrraedd y tim Dan 9.
Hyfforddi Ac Ymarfer
Amseoredd ymarfer bob bore Sul yw 10.30am - 12:00 (Hanner Dydd) - pob oedran. Trefnir sesiynnau hyfforddi ganol wythnos gan rai o'r timau - dyddiau ac amseroedd yn amrywio yn ol galwadau gwaith a gallu'r hyfforddwyr unigol. Bydd y trefniadau yn nwylo Hyfforddwr tim/timau eich plentyn/plant.
Mae hyfforddwyr awyddus a chefnogaeth rhieni yn hanfodol i wneud yr Adran Iau yn adran fywiog a llwyddiannus.
Aelodaeth Adran Iau: £20/teulu
Sub Wythnosol : £1/plentyn
Mae angen dau lun maint pasport ar gyfer cofrestru dechrau'r tymor.
Dylai rhieni / gwracheidwaid fod yn bresennol ar gyfer y sesiynnau hyfforddi cyntaf ac yn arbennig y sesiwn cofrestru. Rydym yn argymell y dylai rhieni'r plant ieuengaf (oed cynradd) aros i wylio a chefnogi, cymysgu a dod i adnabod pobl y Clwb.
Cit Chwarae

Crys - Mae'r Clwb yn darparu crys chwarae ond fe fyddai'n bosibl i chi archebu crys personol drwy'r cwmni isod. Y cwmni C&K Sports sydd yn darparu'r cit i'r Adran Iau yw:
C&K Sports
Butts Green, Wootton Courtenay Minehead, Somerset, TA24 8RN
Tel: 01643 841 408 - Fax: 01643 841 040
E-mail: info@candksports.co.uk
Website: www.candksports.co.uk
Siorts - Mae’n rhaid i rhain fod yn las tywyll.
Sannau - Mae’n rhaid i rhain fod yn goch.
'Gumshields' yn angenrheidiol ar gyfer pob sesiwn hyfforddi a gemau. Gall unrhywun sydd yn anghofio neu sydd heb gumshield brynu un o'r gegin ar fore Sul.
Cost pob gumshield fydd £2 y tymor hwn.
Siorts rygbi 'Navy' a sannau chwarae coch ar gyfer hyfforddi a chwarae gemau.






I'w Cyhoeddi

